This website is best view in portrait mode.

Prynu Nawr
Afallon Mon Jin

O Ddirgelwch Ynys Môn

Daw jin crefft a enillodd sawl gwobr ac a gynhyrchir yn ein distyllfa fechan ar yr ynys. Cynigir y ddiod unigryw hon i’r holl yfwyr jin sy’n mynnu rhywbeth bach ychwanegol

Hanes Afallon

O fyd y gorffennol, pan fyddai dewiniaeth a grymoedd cyfriniol bob amser yn hysbysu’r byd real, bydd nodweddion unigryw Môn yn byw’n dragywydd drwy ei thir a’i phobl. Cafodd gwarchodwraig yr ynys, y dduwies Branwen, ei rhoi i orffwys mewn bedd nid nepell o ddistyllfa Afallon - yn ôl y sôn, mae ei hysbryd yn troedio dyfroedd yr afon Alaw hyd heddiw.

Mae Afallon, yr ynys ddirgel sy’n bodoli’r tu hwnt i fyd amserol a gofodol meidrolion, yn atseinio’n hyfryd â Môn, ei chwaer ynys. Ceir ar y ddwy ynys hudoliaeth sy’n gynhenid Geltaidd.

Gwyliwch y ffilm - yn cynnwys llais John Ogwen

Y Jin

Wedi’i grefftio drwy broses sy’n llawn gofal, sgil ac ymroddiad at ansawdd ac, o bosib, mymryn o ddewiniaeth Geltaidd, mae Jin London Dry Afallon yn unigryw Geltaidd a Chymreig yn ei hanfod. Rydym wedi defnyddio dŵr o’r ffynnon 200 mlwydd oed sydd gennym ar dir y ddistyllfa yma yn Ynys Môn. Daw ein cynnyrch botanegol o’r ardal leol a thros y byd i greu profiad yfed hynod neilltuol. Wrth ei yfed ar ei ben ei hun, cewch eich taro â ffrwydrad sitrws ffres o groen oren a lemwn. Os dewiswch chi’r cymysgydd iawn, cewch fwynhau’r ddiod berffaith.

O dan arweiniad y meistr ddistyllwr adnabyddus, Gerard Evans, sydd wedi ennill nifer o wobrau, rydym wedi gwireddu ein breuddwyd i greu jin a fyddai’n cyrraedd y lefel ragoriaeth uchaf.

Ingredients

Juniper Berries
Cardamon Pods
Peppercorns
Star Anise
Lemon

Y Ddistyllfa

Dafliad carreg o bentref prydferth Llanfachraeth, bu’r fferm o dan ofal y teulu Owen ers cenedlaethau ac mae bellach yn gartref i fusnes blaengar. Mae Arwyn Owen a’i frawd Gethin, ynghyd â’u ffrindiau Emyr Gibson a Keith Williams, wedi bod yn cynllunio’r fenter hon dros y pum mlynedd ddiwethaf. Adlewyrchir eu brwdfrydedd a’u llygad am fanylder yn ansawdd eu cynnyrch.

Mae distyllfa Afallon Môn wedi’i lleoli ar Ynys Môn yng Ngogledd Cymru. Gyda thiroedd gwledig bendigedig o’i chwmpas, mae’r ddistyllfa wedi’i lleoli mewn ysgubor Gymreig o’r ddeunawfed ganrif sydd wedi’i hadnewyddu ar Fferm Bedo.

Stocwyr Lleol

Blas Mwy Black Lion

Llanfaethlu

Bonta Deli

Caernarfon

Caffi Congl Meinciau

Botwnnog

Y Deli Newydd

Cricieth

Deli'r Banc

Penygroes

Gwin Llyn Wines

Pwllheli

Herron Services

Pentraeth

Llanfairpwll Distillery

LlanfairPG

Londis

Bethesda

Londis

Caeathro

Oriel Mon

Llangefni

Siop Mws Piws

Porthmadog

Siop y Bont

Pontrhydfendigaid

Spar

Nefyn

Spar

Abersoch

Spar

Pwllheli

Spar

Aberdaron

Spar

Trearddur Bay

Spar

Llangefni

Spar

Penmaenmawr

Spar

Llanrwst

The Olive Tree

Mold

Ty Copr

Penysarn

Vinomondo

Conwy

Whitehall

Pwllheli

Wally's Deli

Caerdydd

Mwynhewch yn Gyfrifol

www.drinkaware.co.uk

Terms & Conditions Privacy Policy